Newyddion y Ffordd yr Orsaf

Newyddion y Ffordd yr Orsaf

Mae dau gam o gynllun ailwampio Canol Tref Bae Colwyn bellach wedi’i gwblhau.

Bydd y trydydd cam, Ffordd yr Orsaf, yn dechrau ym mis Ionawr 2009 ac yn cynnwys palmantau newydd, dodrefn stryd, gwell goleuadau a choed. Unwaith bydd wedi’i gwblhau, bydd cyfyngiad ar gerbydau ar Ffordd yr Orsaf i amseroedd a ganiateir rhwystrau ‘Codi a Disgyn’ yn cael eu defnyddio i reoli traffig. Bydd hyn yn tawelu meddyliau cerddwyr i hamddena ar hyd Ffordd yr Orsaf. Disgwylir i’r gwaith gymryd 20 wythnos.

Mae’r datblygiad Strydwedd £1.5m yn gynllun cyffrous, lle dros gyfnod o 2 flynedd, bydd tri cham nodedig o waith yn trawsffurfio canol y dref.

Mae’r cynllun wedi cael bron i £1.25m oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mwy...

Ffordd yr Orsaf Wythnos 1
Ni chafwyd unrhyw oedi wrth glirio’r safle
Ffordd yr Orsaf Wythnos 2
Parhau i glirio’r safle a chael gwared ar y blociau palmant.
Ffordd yr Orsaf Wythnos 3
Cafodd y difrod ei drwsio o fewn 1.5 awr a chafodd y cyflenwad dŵr ei adfer yn yr amser hwnnw.
Ffordd yr Orsaf Wythnos 4
Cloddio sianelau ACO o Peacocks i lawr
Ffordd yr Orsaf Wythnos 5
Gosodwyd lefel is-sylfaen yr adeiladwaith o dop y job yn yr ardal ganolog a’i drimio nôl i’r lefel cywir a’i rowlio.
Ffordd yr Orsaf Wythnos 7
Graddio’r lefel ffurfiant gyferbyn â Boots a gosod haenau Terram a Geo-grid.
Ffordd yr Orsaf Wythnos 8
Parhau gyda chloddio tyllau  lleoedd ar gyfer coed, o’r wythnos ddiwethaf.
Ffordd yr Orsaf Wythnos 9
Ailddechrau gosod slabiau yn rhan uchaf y safle (wrth y Central Public House)
Ffordd yr Orsaf Wythnos 10
Cloddio’n man meddal /gwlyb yn y ffordd rhwng yr Imperial ac Eateasy
Ffordd yr Orsaf Wythnos 11
Contractwyr HDM ar y safle i lefelu man uchel rhwng M & Co a siop yr RSPCA
Ffordd yr Orsaf Wythnos 12
Cysylltiadau ar gyfer y colofnau goleuadau.Cloddio y tu allan i Bet Fred, Boxcellence a hanner W H Smith
Ffordd yr Orsaf Wythnos 13
Gosod slabiau y tu allan i dafarn y Central a’r eiddo gwag ger W H Smith
Ffordd yr Orsaf Wythnos 14
Cloddio y tu allan i Homeland a World Choice.Gosod slabiau y tu allan i Spar a M & Co.
Ffrodd yr Orsaf Wythnos 16
Gosod slabiau y tu allan i Arundales a Fair Trade Flooring
Ffordd yr Orsaf Wythnos 17
Cloddio gwaelod y safle hyd at Princes Drive.
Gosod ymylfeini a slabiau yn yr ardal rhwng Ffordd yr Orsaf a’r llwybr rhwng Ffordd yr Orsaf a Penrhyn Road.
Newyddion y Ffordd yr OrsafNewyddion y Ffordd yr Orsaf

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia