Newyddion y Greenfield Road

Newyddion y Greenfield Road

Greenfield Road

Dechreuodd cam cyntaf Cynllun Adnewyddu Strydoedd Bae Colwyn ‘Strydwedd’ 10 Medi 2007 trwy wella cyffordd Greenfield Road a Bay View Road sy’n un o’r prif fynedfeydd i’r dref. 

Roedd y gwaith gwella yn cynnwys palmentydd newydd, gydag estyniadau i gerddwyr,goleuadau newydd a newid cynllun y gylchfan..   


Mwy...

Greenfield Road Wythnos 2
Mae’r llwybr troed ar hyd Bay View Road at y fynedfa i’r ganolfan siopa wedi cael ei godi o’r man lle mae’r peiriannau’n cael eu cadw, i’r pen draw.
Greenfield Road Wythnos 3
Mae'r gwaith gosod palmant ar hyd Bay View a Greenfield Road (Cam 1) yn mynd yn ei flaen yn dda erbyn hyn ac mae'r mynedfeydd i gerbydau ar Bay View Road hefyd wedi cael eu gosod.
Greenfield Road Wythnos 4
Mae’r brif wal garreg bron wedi’i chwblhau, ac mae’r ddwy wal ochr sydd o bopty terfynau maes parcio CG wrthi’n cael eu hadeiladu.
Greenfield Road Wythnos 5
Mae’r ddwy groesfan i gerddwyr wedi eu cwblhau o fewn y cam hwn
Greenfield Road Wythnos 6
Ar hyn o bryd mae'r contractwyr yn dal i aros i'r goeden gyrraedd er mwyn cwblhau'r cam hwn.
Greenfield Road Wythnos 7
Mae’r llochesi i gerddwyr ar hyd y ffordd i’r ganolfan siopa ac ar hyd Greenfield Road bellach wedi’u cwblhau.
Greenfield Road Wythnos 8
Mae’r palmant bron a chael ei gwblhau ar y cam hwn – ar hyn o bryd mae’r contractwyr yn aros i’r cysylltiad trydan gael ei gwblhau cyn gosod yr ychydig fetrau olaf o balmant.
Greenfield Road Wythnos 9
Mae’r gard coeden wedi’i osod, ac mae’r ardal hon bellach wedi’i chwblhau.
Newyddion y Greenfield RoadNewyddion y Greenfield Road

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia