Strydlun Cam 1

Strydlun Cam 1

16th October 2009

Mae Cam 1 cynllun Gwella Canol Tref Bae Colwyn wedi’i gwblhau bellach gan roi gwedd hollol newydd i Fae Colwyn.  Roedd y gwaith gwella yn cynnwys palmentydd, coed, mannau plannu a dodrefn stryd newydd ac mae palmentydd newydd a mannau croesi wedi’u gosod ar Greenfield Road.  Mae system bolardiau symudol wedi’i gosod ar Ffordd yr Orsaf ac yn gweithredu’n llawn rŵan.  

Ar hyn o bryd, mae Gwiriadau Archwilio Diogelwch Cam 3 yn cael eu cynnal ar 3 elfen Cam 1, Cylchfan Greenfield Road, Sea View Road a Ffordd yr Orsaf. Unwaith y byddwn wedi cwblhau’r rhain bydd unrhyw waith adfer hefyd yn cael ei gwblhau.  Yn dilyn y gwaith hwn bydd y ffordd yna’n cael ei selio a’i glanhau.

  • System Bolardiau Symudol ar Ffordd yr Orsaf – Ni fydd unrhyw gerbydau (heb law am gerbydau gwasanaeth argyfwng) yn gallu cael mynediad i Ffordd yr Orsaf rhwng 11am a 4pm.  Tu allan i’r oriau hyn – 4pm tan 11am, bydd mynediad ar gyfer llwytho a mynediad i’r anabl yn unig.  6pm tan 6am – ranc tacsis gyda’r nos.




Strydlun Cam 1Strydlun Cam 1

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia