Menter Bywyd y Bae

Menter Bywyd y Bae

22nd October 2009

Mae hi wedi bod yn dipyn o 11 mis i bawb sy’n gysylltiedig â Bae Colwyn a Menter Bywyd y Bae.  Ym mis Tachwedd 2008 cafwyd cyhoeddiad gan Lywodraeth y Cynulliad y byddai Bae Colwyn, ynghyd â’r Rhyl, yn cael ei dynodi’n Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru.  Yna yn 2009 cyhoeddwyd fod Bae Colwyn, fel rhan o gais gwerth £38miliwn ar draws Gogledd Cymru, yn mynd i dderbyn gwerth £11.3miliwn o Arian Ewropeaidd.

Mae statws Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru wedi’i ddynodi am saith mlynedd i ddechrau a gallai ddenu gwerth miliynau o bunnoedd o brosiectau arian cyhoeddus a phreifat. Bydd y cynlluniau’n cynnwys rhoi hwb i dwristiaeth yn y Rhyl a Bae Colwyn, gwella’r amgylchedd a chynyddu lefel sgiliau. Rhai o’r themâu eraill a nodwyd yw Tai, Economi Cynaliadwy, Cydlyniad Cymunedol ac Iechyd a Lle.

Bydd yr arian Ewropeaidd yn canolbwyntio ar Adfywio Ffisegol ym Mae Colwyn gyda phrosiectau penodol yn cael eu clustnodi ar gyfer gwelliannau Amgylcheddol ar ymyl y dŵr a fydd yn gwella cyfleusterau a hybu twristiaeth, tra bod prosiectau adfywio canol y dref wedi’u cynnig hefyd a fydd yn cynnwys TCC a Goleuo, dodrefn stryd a gofod cymunedol.


Menter Bywyd y BaeMenter Bywyd y Bae

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia