Bae Colwyn yn Ennill Gwobrau Prydain yn ei Blodau 2009

Bae Colwyn yn Ennill Gwobrau Prydain yn ei Blodau 2009

22nd October 2009

Enillodd Bae Colwyn wobr arian ac ail safle’r Adran Arfordirol (trefi dros 12,000) yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau.

Mae cystadlu brwd am y wobr hon ac mae’n dilyn ennill y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau wyth gwaith yn olynol.

Dywedodd Ingrid Lewis, Rheolwr Tref Bae Colwyn a Chadeirydd Colwyn yn ei Flodau:   ”Mae cael gwahoddiad i gystadlu ym Mhrydain yn ei Blodau yn anrhydedd mawr ac ychydig o drefi sy’n llwyddo i’w hennill.  Ond yr enillwyr go iawn ydi cymuned ehangach Bae Colwyn, sydd wedi cydweithio i sicrhau’r canlyniad cadarnhaol hwn.  Mae’n rhaid canmol y gwaith caled hwn a holl frwdfrydedd cymaint o grwpiau cymunedol, cymdeithasol a busnes, unigolion a’r sector cyhoeddus.”

  • Gweithiodd disgyblion gwahanol ysgolion trwy’r flwyddyn ar brosiectau amgylcheddol amrywiol
  • Mae grwpiau gwirfoddol yn parhau gyda’i gwaith ardderchog i wella’u cymunedau
  • Mae garddwyr ledled yr ardal wedi bod yn trin eu gerddi, neu os nad oedd gardd ar gael iddynt,  plannwyd blodau mewn gerddi ar ben toeau a blychau ffenestri
  • Prynodd mwy o fusnesau nag erioed o’r blaen, fasgedi crog
  • Crëwyd y basgedi crog a’r cafnau rheiliau gan dîm Planhigfa Bryn Euryn 
  • Ariannwyd rhagor o nodweddion helyg gan Gyngor Tref Colwyn, yn ogystal   noddi basgedi crog ar gyfer busnesau gan gydlynu ymgyrchoedd ‘Yn ei Flodau’
  • Gweithiodd Gwasanaeth Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ddiflino i sicrhau bod pob parc a gardd a man cyhoeddus mewn cyflwr gwych a’u bod yn lân ac yn daclus.

Mae’r wobr yn sicrhau bod yr ardal yn ddeniadol trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â bod yn hwb i’w groesawu ar gyfer Bae Colwyn.

I gael rhagor o wybodaeth a chyfle i dynnu lluniau, ffoniwch Ingrid Lewis ar 01492 536000.

Bae Colwyn yn Ennill Gwobrau Prydain yn ei Blodau 2009Bae Colwyn yn Ennill Gwobrau Prydain yn ei Blodau 2009

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia