Co-Ordinator's update

Co-Ordinator's update

"Darparu Bywyd y Bae"

Mae’r ddogfen Darparu Bywyd y Bae yn disgrifio sut all amcanion Rhaglen Bywyd y Bae gael eu cyflawni. Bydd yn helpu rhoi darparu gwybodaeth, cyd-destun a sail ar gyfer cynlluniau a phrosiectau.

Bydd Darparu Bywyd y Bae yn arwain blaenoriaethau datblygu’r ardal, ond mae’n ddigon hyblyg i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd newydd a allai godi.  Mae tri chynllun datblygu allweddol yn cael eu nodi, yn ogystal â phrosiectau posibl eraill a allai ychwanegu at y cynlluniau hyn.

Y tri chynllun allweddol yw:

  • Gwelliannau Arfordirol ac ar lan y dŵr
  • Sefydlu swyddfeydd y Cyngor yng nghanol y dref
  • Parc Eirias yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth chwaraeon, hamdden a diwylliant

Mae copïau o’r ddogfen Darparu Bywyd y Bae ar gael i’w gweld yn swyddfa Bywyd y Bae, llyfrgell Bae Colwyn ac ar y wefan www.colwynbaylife.co.uk

Cafodd sylwadau ar gynnwys Darparu Bywyd y Bae eu cyflwyno i Fwrdd Rhaglen Bywyd y Bae a byddwn yn ystyried y sylwadau hynny yn y cyfarfod nesaf.  Bydd copïau diwygiedig o’r ddogfen yn cael eu rhyddhau unwaith bydd yr holl sylwadau wedi’u bwydo i mewn.

Yn ogystal â chreu’r cynlluniau hyn er mwyn darparu Prosiectau Bywyd y Bae rydym hefyd wedi creu 4 Grŵp Darparu i oruchwylio’r holl Brosiectau hyn.  Bydd gan y grwpiau hyn Gadeirydd a Swyddog Arweiniol ac maent wedi’u creu dan y penawdau canlynol.

Gwelliannau Glan y Dŵr a Strydwedd – Prosiectau Peirianneg Sifil Mawr – Ar hyn o bryd mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys Camau 1 a 2 y Strydwedd, Glan y Dŵr Bae Colwyn a Grant Gwella Tref.

Ailddatblygu Trefol a Chynllunio Gofodol – Bydd y grŵp hwn yn cynnwys prosiectau ffisegol fel Adeiladau

Datblygu Parc Eirias – Goruchwylio pob datblygiad ym Mharc Eirias gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru

Datblygiad Cymunedol a Gwasanaethau – Goruchwylio syniadau datblygu prosiect sy’n deillio o Gyfranogiad Cymunedol

Penrhyn Road

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar gynlluniau manwl o’r datblygiadau bwriedig ar Penrhyn Road.  Cafodd y cynlluniau eu harddangos yn y llyfrgell ar 28 a 29 Medi ac maent i’w gweld rŵan yng Nghanolfan Wybodaeth Bywyd y Bae.  Mae croeso i chi alw i mewn i weld y cynlluniau.  Rydym yn  gobeithio y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr 2010 er y bydd yn dibynnu ar yr atborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad.

Ffordd yr Orsaf

Mae’r gwaith ar Ffordd yr Orsaf wedi’i gwblhau bellach heb law am rai mân broblemau. Ar hyn o bryd, mae Gwiriadau Archwilio Diogelwch Cam 3 yn cael eu cynnal ar 3 elfen Cam 1, Cylchfan Greenfield Road, Sea View Road a Ffordd yr Orsaf. Unwaith y byddwn wedi cwblhau’r rhain bydd unrhyw waith adfer hefyd yn cael ei gwblhau.  Yn dilyn y gwaith hwn bydd y ffordd yna’n cael ei selio a’i glanhau.

Tîm SRA

Mae WAG wedi penodi 2 swyddog arweiniol ar gyfer y themâu SRA, Tai a Chydlyniad Cymunedol, bydd penodiadau eraill yn cael eu gwneud ar gyfer y themâu eraill yn fuan.

Prosiectau Posibl i’r Dyfodol

Rwyf mewn cysylltiad ag amryw o grwpiau a sefydliadau i drafod prosiectau posibl ar gyfer yr SRA.  Bydd diweddariadau pellach i’r Prosiectau’n ymddangos ar ôl iddynt dderbyn cefnogaeth.  Ein gobaith yw cynnwys rhestr o brosiectau sy’n derbyn arian yr SRA ar y wefan hon yn y dyfodol agos.

QUAT

Cynhaliwyd y 3ydd cyfarfod ar 12 Hydref.  Cadeiriodd y Cyng. Chris Hughes ei gyfarfod llawn cyntaf ers derbyn y swydd, gyda Teresa Carnall yn Is-Gadeirydd. 

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Yn ddiweddar rydym wedi cynnal nifer o Ymgynghoriadau Cyhoeddus, 2 ddogfen, Cynllun Gweithredu’r SRA a Dogfen Darparu Bywyd y Bae fel y soniwyd yn gynharach a 2 Brosiect, Penrhyn Road a Pharc Eirias.  Daeth yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu i ben ar 1 Medi, ac mae’r ymgynghoriadau ar y prosiectau’n dal i gael eu cynnal.  Cafodd y ddau brosiect groeso ac mae’r atborth wedi bod yn bositif. 

Cyffredinol

Yn dilyn cyfarfod gyda Swyddogion a gyfrannodd at ddatblygiad yr SRA, mae amryw o wahanol Fyrddau Rhaglen yn cael eu sefydlu rŵan i arwain ar y themâu a nodwyd yn Strwythur Darparu Bywyd y Bae. Yn ogystal â’r Byrddau a gyfeiriwyd atynt yn barod, mae Bwrdd Adfywio Ffisegol, Bwrdd Parc Eirias, Bwrdd y Rhaglen Gymunedol a Bwrdd Datblygu Trefol yn cael eu creu.  Rydym yn gobeithio bydd y byrddau hyn yn cyfarfod dros yr wythnosau nesaf.

Co-Ordinator's updateCo-Ordinator's update

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia