Cymunedau’n Gyntaf

Cymunedau’n Gyntaf

Mae Bae Colwyn wedi’i dynodi’n ardal Cymunedau’n Gyntaf.  Mae’n cynnwys rhannau o ward Glyn a rhan o ward Rhiw rhwng Parc Eirias a Phen Orllewinol y dref.  Rhaglen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau’n Gyntaf i helpu’r ardaloedd hynny sydd dan yr anfantais fwyaf.  Y nod yw gweithio gyda phobl leol i’w galluogi i chwarae rhan weithredol yn eu cymuned.

Mae partneriaeth wedi’i sefydlu i ddatblygu cynllun ar gyfer y ffordd ymlaen yn lleol.  Mae hon yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol, y sector gwirfoddol, y sector busnes a sefydliadau statudol.  Bydd y cynllun yn delio ar lefel leol â themâu Diogelwch Cymunedol, yr Amgylchedd, Iechyd a Lles, Tlodi Plant, Addysg Sgiliau a Hyfforddiant, Swyddi, Cynhyrchu Busnes ac Incwm.  Byddwn yn gweithio gyda menter adfywio Bywyd y Bae ar brosiectau i wella’r dref pan fo hynny’n briodol.

Os ydych â diddordeb mewn cymryd rhan neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth, cyngor neu gymorth cysylltwch â’r Tîm Cymunedau’n Gyntaf sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Wybodaeth Bywyd y Bae, Bae Colwyn neu ffoniwch 01492 531996 neu anfonwch neges e-bost at sarah.mylchreest@conwy.gov.uk.

A ydych yn grŵp cymunedol bach neu’n sefydliad ddim er elw? A ydych wedi’ch lleoli ym Mae Colwyn neu a ydych yn cefnogi cymunedau Bae Colwyn?

Os ‘ydym’ yw’r ateb efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am nawdd o Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf.  Mae £20,000 ar gael i grwpiau lleol wneud cais amdano.

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth yn Gronfa Cynulliad Cymru sydd wedi’i hanelu at sefydliadau bach sy’n cael ei harwain gan y gymuned mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ar draws Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 31 2010.

I gael rhagor o wybodaeth a chopi o’r pecyn cais cysylltwch â’r Tîm Cymunedau’n Gyntaf yng Nghanolfan Wybodaeth Bywyd y Bae (swyddfa gwybodaeth i ymwelwyr gynt) neu ffoniwch 01492 531996.

Neu ffoniwch linell gymorth genedlaethol Cymunedau’n Gyntaf ar 0800 857 8898.

Cymunedau’n GyntafCymunedau’n Gyntaf

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia