Chwaraeon y Bae
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoyODA6aGVpZ2h0OjI4MDpzY2FsZW1vZGU6Zm9yY2U6}.jpg)
Boed ar y tir neu yn y dŵr, mae chwaraeon yn bwysig yn y bae.
A ph'un ai ydych yn chwarae i ennill, neu'n cymryd rhan i fwynhau, fe ddewch chi o hyd i'r gamp iawn i chi.
Ewch i Ganolfan Hamdden Bae Colwyn ym Mharc Eirias am gyfleusterau da gan gynnwys pwll nofio, canolfan dennis arbenigol, llyn cychod, trac athletau, cae pêl-droed, lawnt fowlio a pharc sgrialu. Mae yna gwrs mini golff hyd yn oed.
Ac os mai golff sy'n mynd â'ch bryd (o'r maint safonol, hynny yw), mae Clwb Golff yr Hen Golwyn neu Glwb Golff Llandrillo-yn-rhos, lle gallwch chwarae rhai rowndiau ac amsugno golygfeydd trawiadol y môr ar yr un pryd.
A pheidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar ein chwaraeon dŵr. Mae jet-sgïo, pysgota, hwylio i gyd yma. A chyda chyfleusterau llithrfa wedi'u gwella'n ddiweddar, mae hyd yn oed yn haws i gael amser da ar y dŵr.
Dolenni Cyswllt Defnyddiol


News
