Siopau'r Bae
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoyODA6aGVpZ2h0OjI4MDpzY2FsZW1vZGU6Zm9yY2U6}.jpg)
Ewch ar daith siopa i Fae Colwyn i ddarganfod eich hen ffefrynnau ynghyd ag ambell i syrpreis.
Prynwch anrheg i rywun arall neu i chi'ch hun! Caiff llawer o'n siopau annibynnol gwych eu rhedeg gan deuluoedd. Mae gemwaith, llyfrau prin, celfi, blodau, clustogwaith, camerâu, gitarau wedi'u gwneud â llaw a cherameg peintio eich hun i gyd yn y gymysgedd o siopau.
Ac ar ôl prynhawn caled o therapi siopa, nid oes prinder lleoedd i roi eich bagiau siopa i lawr a chael tamaid i fwyta.
Os
ydych yn chwilio am ffefrynnau'r stryd fawr, mae gennym y rheiny hefyd.
Yn ogystal, mae un o ganolfannau siopau dan do mwyaf y rhanbarth,
ynghyd â pharcio rhad ac am ddim defnyddiol yno. Felly, nid oes esgus
gwell wedi bod i fynd i siopa erioed.
Marchnadoedd y Bae
Pobl,
bargeinion, awyrgylch – dewch i ganol bywiog tref Bae Colwyn sydd hyd
yn oed yn brysurach na’r arfer bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn gyda phobl
leol ac ymwelwyr yn mynd am dro ar y stryd ac yn mwynhau’r profiad o
farchnad stryd draddodiadol fwyaf Gogledd Cymru. Mae llu o nwyddau
cyffrous gan gynnwys dillad, esgidiau, planhigion, offer ac arfau,
siocled, gemwaith a bagiau, a llawer mwy.
Dewch draw i fachu bargen.
Hefyd,
rydym yn enwog am ein bwyd sydd wedi’i dyfu gartref yng Ngogledd Cymru
- diolch i’n bryniau mawr gwyrdd a’r hinsawdd gymedrol. Mae prynu bwyd
yn syth o’r cynhyrchwyr yn fodd gwych o gefnogi ein heconomi lleol ac
oherwydd nad yw’r bwyd wedi teithio’n bell, mae’n golygu ei fod yn well
ar gyfer yr amgylchedd a gorau oll, rydych yn gallu blasu bwyd fel y
dylai fod.
Dewch i’n Marchnad Ffermwyr ar ddydd Iau rhwng 9am a
1pm ym maes parcio Canolfan Siopa Bay View lle rydych yn gallu prynu
llysiau, caws, mêl a chyffeithiau lleol ac, wrth gwrs, cig Cymreig
blasus.
Hygyrchedd
Ni ddylai symudedd cyfyngedig olygu
mwynhad cyfyngedig. Mae Shopmobility Bae Colwyn yn cynnig gwasanaeth
llogi ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri modur i'ch helpu i fynd o
gwmpas a gweld y gorau o'r bae.


News
