Lleoedd y Bae

Lleoedd y Bae

Os ydych yn byw yn y Bae neu'n ymweld yn unig, ni fydd prinder lleoedd i fynd iddynt a phethau i'w gweld gennych.

O fridiau prin a hen ffefrynnau yn ein Sŵ Mynydd Cymru enwog, i dennis a nofio ym Mharc Eirias.

Ewch am dro i lawr ein pier Fictoraidd, neu heiciwch i fyny i Goedwigoedd Pwllycrochan. Beiciwch ar hyd ein rhan ni o Lwybr Seiclo Gogledd Cymru.

Ewch i edrych ar y cerfluniau  helyg a gweld pam y dewiswyd ein tref ni yn Dref Fawr Gorau Cymru yn ei Blodau ers y chwech mlynedd diwethaf. Ewch i wylio drama neu ffilm yn Theatr Colwyn, mae ein theatr wedi'i hen sefydlu yng nghanol y dref yn cynnwys rhaglen o glasuron y sgrin fawr a ffilmiau o dramor ynghyd â chalendr llawn o ddigwyddiadau llwyfan ar hyd y flwyddyn.

Ewch i Landrillo-yn-rhos i weld sioe bypedau hen ffasiwn. Neu dilynwch y llwybr treftadaeth i ddarganfod golygfeydd hanesyddol rhyfeddol sy'n cynnwys y capel lleiaf yng Nghymru (wrth y traeth) a bryngaer Oes Haearn Bryn Euryn sy'n edrych dros y bae.

Ac oes nad oedd hynny'n ddigon, mae gennym amrywiaeth fawr o leoedd bwyta hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys bariau caffi yn null y cyfandir, tafarndai traddodiadol yn gweini bwyd traddodiadol, a blasau gwych o bedwar ban byd.

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

Lleoedd y BaeLleoedd y Bae

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia