Cartrefi'r Bae
Heddiw, Bae Colwyn yw un o'r trefi mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, os byddwch yn cynnwys Llandrillo-yn-Rhos a'r Hen Golwyn mae bron 35,000 o bobl yn byw yn y Bae.
Ymddangosodd tipyn o ganol tref Bae Colwyn yn ystod yr adeg Fictoraidd ac mae llawer o adeiladau brics coch deniadol yn parhau i sefyll heddiw, gan roi cymeriad nodedig i ganol y dref. Ychydig y tu allan i ganol y dref, mae rhai tai tref gwreiddiol wedi'u trawsnewid yn fflatiau preswyl neu'n swyddfeydd.
Ar gyrion y dref y mae ardaloedd preswyl mawr yr Hen Golwyn i'r dwyrain a Colwyn Heights i'r de, yn ogystal â phentref cyfagos Llandrillo-yn-Rhos sydd â llawer o eiddo wrth y traeth a strydoedd preswyl o gwmpas canol y pentref.
Mae Bae Colwyn yn cynnig amrywiaeth o eiddo i'w prynu, o gartrefi dethol newydd sbon a chartrefi moethus hŷn, i lety mwy fforddiadwy yng nghanol y dref. Yn ogystal, mae amrywiaeth o lety preifat i'w rhentu, tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a llety'r Gymdeithas Tai.
Dolenni Cyswllt Defnyddiol
Gwerthwyr Tai
- Anthony Flint
- Rightmove
- Primelocation.com
- Beresford Adams
- Propertypark.com
- Bryan Davies & Associates
- Sterling Estates
Datblygwyr
Cymdeithasau Tai


News
