Treftadaeth y Bae

Treftadaeth y Bae

Ewch am dro o gwmpas Bae Colwyn a byddwch yn sicr o sylwi ar y bensaernïaeth nodedig.

Codwyd y rhan fwyaf o dai brics coch y Bae yn ystod y cyfnod Fictoraidd hwyr i drigolion cyfoethog. Fe'u trawsnewidiwyd yn ddiweddarach yn westai yn ystod anterth y dref fel cyrchfan gwyliau. Ond mae hanes yr ardal yn mynd yn ôl tipyn yn bellach.

Gerllaw fe ddewch chi o hyd i weddillion o gyn belled yn ôl â'r Oes Haearn, fel mae'n digwydd, a gallwch ddilyn Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos i ddarganfod bryngaer Bryn Euryn gyda'i olygfeydd gwych o'r Bae, yn ogystal â Chapel bach Sant Trillo o'r 6ed ganrif wrth y Traeth. Ond mae yna hanes ar lefel bersonol yma hefyd.

Mae'r rhyngrwyd wedi'i gwneud hi'n haws nag erioed i olrhain hanes ein teuluoedd a'n cysylltiadau ag ardal benodol. Felly, os ydych yn byw yn y Bae, neu os oes gennych deulu yma, ewch i chwilio a chael gwybodaeth am eich gwreiddiau yn y Bae.

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

Treftadaeth y BaeTreftadaeth y Bae

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia