Busnesau'r Bae
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoyODA6aGVpZ2h0OjI4MDpzY2FsZW1vZGU6Zm9yY2U6}.jpg)
Mae Bae Colwyn prysur ddod yn un o gyrchfannau busnes mwyaf deniadol Gogledd Cymru.
Ein lleoliad delfrydol sy'n gyfrifol am hyn.
Nid
ydym yn agos i'r A55. Rydym arni. Rydym 30 munud o ddinas prifysgol
Bangor a 40 munud o Gaer. Mae yna gyswllt rheilffordd uniongyrchol i
Euston yn Llundain hefyd. A gallwch yrru'n gyflym i feysydd awyr
rhyngwladol Lerpwl a Manceinion. Felly ni all fynd yn fyd-eang fod yn
haws.
Ychydig ar hyd yr arfordir yn Llandudno fe welwch
ddatblygiad canolfan gynadledda newydd Venue Cymru. Ac ychydig funudau
i ffwrdd y mae darpar safle swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng
Nghyffordd Llandudno.
Ond mae gan y Bae ei hun cymaint i'w gynnig i'ch busnes.
Nifer gynyddol o weithwyr medrus. Sector swyddfeydd ac adwerthu sy'n bodoli ac wedi'i hen sefydlu. Mae lle gwaith ar gael mewn swyddfeydd modern, wedi'u hadeiladu i bwrpas ac adeiladau cyfnod wedi'u hadnewyddu.
Cyfunwch y rhain gyda thair milltir o forlin arobryn ar un ochr a choetir ar y llall, ac mae gennych amgylchedd gweithio hollol wahanol. A busnes sydd mewn lle da i lwyddo.
Useful links


News
