Cludiant a'r Amgylchedd
Mae Menter Bywyd y Bae yn ymwneud â gwneud Bae Colwyn yn lle mwy diogel, glân ac iach i fod ynddo a gwneud yn siŵr ei fod yn aros felly ar gyfer y dyfodol.
Rydym am wella ymddangosiad cyffredinol canol y dref a glan y dŵr, gan wneud y Bae yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr.
Rydym am i'r dref fod yn fwy deniadol i fusnesau, ac annog buddsoddi o'r tu allan ond nid ydym yn credu'n unig y dylai'r Bae edrych yn well, credwn y dylai fod mor hawdd cyrraedd Bae Colwyn â phosibl a, phan fyddwch yma, mor hawdd mynd ar hyd lle â phosibl.
Felly, rydym am wneud yn siŵr fod cludiant cyhoeddus yn ddiogel ac yn effeithlon ac yn hawdd mynd ato, gyda gwasanaethau rheolaidd, ffioedd y gellir eu fforddio a chyfleusterau da.
Ac i ddefnyddwyr ceir, credwn y dylid cael system rheoli traffig sy'n gwasanaethu'r dref yn well yn ogystal â chanol tref sy'n hawdd i gerddwyr a phobl gyda symudedd cyfyngedig.
Felly, p'un a ydych yn byw yma neu'n pasio heibio'n unig, bydd ymweliad â'r Bae yn brofiad braf i bawb.


News
