Tai

Mae Menter Bywyd y Bae yn ymwneud â gwneud y Bae yn lle gwell i bobl leol fyw ynddo. 

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni wneud yn siŵr fod yna gymysgedd dda o dai ansawdd uchel, fforddiadwy ar gael i'w prynu a'u rhentu. 

Mae angen i'r Bae Colwyn newydd a gwell fod yn un cynhwysol.  Felly, byddwn yn uno â'r darparwyr tai cyhoeddus a phreifat i'w gwneud hi'n haws i bobl leol prynu fflatiau a thai ansawdd da trwy fentrau cyhoeddus fel prosiectau adnewyddu trefol wedi'u hintegreiddio â datblygiadau preifat. 

Rydym am dorri swm y llety rhent ansawdd isel mewn tai amlbreswyl a sicrhau bod y landlordiaid yn cynnal a chadw eu tai yn gywir ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

TaiTai

Built on XML Technology | W3C Compliant | (c)2007 Bay Life Initiative &Tastic Multimedia