Menter Bywyd y Bae
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoyODA6aGVpZ2h0OjI4MDpzY2FsZW1vZGU6Zm9yY2U6}.jpg)
Beth yw Menter Bywyd y Bae?
Cynllun datblygu yw Menter Bywyd y Bae sy'n anelu at wneud Bae Colwyn yn lle gwell i fyw ynddo ac i ymweld ag ef.
Mae'n ymwneud â mwy na thwtio a gwneud iddo edrych yn dda ar yr wyneb yn unig.
Mae'n ymwneud â gwella'r holl bethau sy'n gwneud cymuned. Pethau fel cludiant cyflogaeth, iechyd, tai, busnes ac addysg. A mynd i'r afael â phroblemau fel trosedd ac anhrefn.
Trwy wella'r pethau hyn, mae Menter Bywyd y Bae yn anelu at newid delwedd gyffredinol ein tref a chreu tref y gall pob un ohonom fod yn falch ohoni, rydym eisiau byw ynddi ac eisiau ymweld â hi. Lle gydag uchelgais.
Lle sy'n cofleidio'r harddwch naturiol o'i amgylch. Lle gydag ymdeimlad cryf o gymuned.
Ein
gweledigaeth ni ar gyfer Bae Colwyn yw 'tref sy'n ffynnu, sy'n
ddeniadol ac yn fywiog sy'n groesawgar, yn ddiogel ac yn gyfeillgar;
lle gyda chymeriad unigryw y mae pobl yn falch i fyw ynddo'.
Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni'r weledigaeth hon a hyd yn hyn mae'r prosiect wedi dod â dros 30 o grwpiau cymunedol, 200 o fusnesau a bron 800 o bobl leol at ei gilydd.
Dyna rym pobl i chi!
Edrychwch ar y tudalennau canlynol i weld sut mae hyn yn cael ei wneud.


News
